Teithiau a hanesion ym Mannau Brycheiniog

dewch i grwydro ein Parc Cenedlaethol godidog a darganfod rhywfaint o'r dreftadaeth sydd i'w chanfod mewn gwahanol rannau o'r ardal.

Cliciwch ar un o'r teithiau difyr isod. Mae pob taith yn daith diwrnod, dan eich pwysau eich hun. Mae rhai hyd yn oed yn cynnwys cerdded a gweithgareddau addas i bob gallu, yn ogystal â rhoi awgrymiadau ar gyfer llefydd i aros dros nos.

Beth am gyfuno dwy daith neu fwy? Er bod y teithiau'n cynnwys cyfarwyddiadau a rhifau ffyrdd, byddai'n dal yn syniad da codi map o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r rhain yn hawdd eu cael o'r gwahanol ganolfannau croeso yn yr ardal neu o'r Ganolfan Fynydd, Libanus. ...fel arall, os byddai'n well gennych chi grwydro'r Bannau gyda Thywysydd a chael diwrnod llawnach fyth o wybodaeth a difyrrwch, gallwch gysylltu ag un o'n Tywyswyr cyfeillgar lleol a fydd yn falch o fynd â chi i'r gwahanol lefydd neu gynllunio taith bersonol ichi.

Diwrnod 1: Cestyll, cychod camlas a'r barcud

Tirweddau digyffwrdd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd y daith ddeuddydd hon yn crwydro rhannau canol a gorllewinol y Parc Cenedlaethol, ac yn cynnwys cestyll hanesyddol, golygfeydd godidog digyffwrdd a thirweddau tawel Camlas Aberhonddu a Mynwy.

Diwrnod 2: Cestyll, cychod camlas a'r barcud

Tirweddau digyffwrdd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Bwyd, o! Fwyd bendigedig!

Anghofiwch y ddeiet!

Dŵr, Dŵr ymhobman, a Diferyn bach i'w yfed

Nid Gwlad y Gan yn unig yw Cymru ... mae hefyd yn wlad mynyddoedd, coedwigoedd a dŵr! Ar y daith hon fe welwch nhw i gyd ... Afonydd, Camlesi, Llynnoedd a Chronfeydd a hyd yn oed Ddŵr Bywyd ei hun, chwisgi gorau Cymru wedi’i ddistyllu o “nant y mynydd groyw, loyw sy’n ymdroelli tua’r pant”. Cyn bo hir, byddwch chithau’n canu’n llon, wrth fynd ar eich hynt drwy olygfeydd godidog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dilyn Llwybrau'r Porthmyn

Dilynwch rai o lwybrau’r porthmyn drwy Drefi Marchnad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a phrofwch y golygfeydd syfrdanol a fwynhawyd ganddyn nhw a’u diadellau. Mae’r Parc wedi’i fendithio â nifer o Drefi Marchnad gwerth ymweld â nhw.

Seintiau, Sgandal a Dreigiau Go Iawn!

Cynllwyn, sgandal, hanes, crefydd a harddwch syfrdanol ... mae’r cyfan gan Landdewi Nant Hodni ar y Mynydd Du.

Y Gorllewin ... a'r Gweddill!

Dim ots i ba gyfeiriad yr ewch chi, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw’r lle delfrydol ar gyfer gwyliau llawn gweithgaredd! Cerdded, dringo, marchogaeth a chanŵio yw rhai o’r gweithgareddau sydd ar gael ar y daith ddeuddydd isod.

Rhufeiniaid, Afonydd, a hen, hen Greigiau

Taith gyffrous, lawn awyrgylch gydag ambell olygfa fawr yn rhan orllewinol Geobarc Ewropeaidd cyntaf Cymru

$FOOTERTEXT